2013 Rhif 2617 (Cy. 256) (C. 104)

BWYD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yn y Ddeddf ar 28 Hydref 2013 at ddiben gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym y darpariaethau a grybwyllir yn erthygl 2 ar 28 Tachwedd 2013 at bob diben arall, ac mae’n dwyn i rym bob darpariaeth arall yn y Ddeddf nad yw mewn grym eto ar y dyddiad hwnnw ac eithrio is-adran 2(5)(b) (sy’n estyn y diffiniad o  “sefydliad busnes bwyd” i gynnwys sefydliad sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall).


2013 Rhif 2617 (Cy. 256) (C. 104)

BWYD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013

Gwnaed                                 11 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013([1]). 

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr y Ddeddf” (“the Act) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. 

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 28 Hydref 2013   

2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 28 Hydref 2013— 

(a)     adran 3(2), (3)(c) a (d) a (5);

(b)     adran 5(4) a (10)(d);

(c)     adran 6(2) a (3);

(d)     adran 7(3) a (4);

(e)     adran 12(2) a (9)(d); ac

(f)      adran 15(1).

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 28 Tachwedd 2013   

3. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym yw 28 Tachwedd 2013.

(a)     adran 1;

(b)     adran 2, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5);

(c)     adran 3, at y dibenion sy’n weddill;

(d)     adran 4;

(e)     adrannau 5, 6 a 7, at y dibenion sy’n weddill;

(f)      adrannau 8 i 11;

(g)     adran 12, at y dibenion sy’n weddill;

(h)     adrannau 13 a 14;

(i)      adran 15, at y dibenion sy’n weddill;

(j)      adrannau 16 i 26;

(k)     adran 28; ac

(l)      yr Atodlen.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Hydref 2013



([1])           2013 dccc 2.